Rossiter Communications
Mae'r ymgynghoriaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Rossiter Communications yn cynnig atebion strategol i helpu cleientiaid i adeiladu eu busnes, proffil ac enw da eu brand yn nhirwedd digidol tameidiog heddiw.
Dealltwriaeth, cyngor, cefnogaeth
Gan weithio'n agos gydag arweinyddion busnes, uwch reolwyr a thimau Cysylltiadau Cyhoeddus mewnol, mae Rossiter Communications yn darparu dealltwriaeth, cyngor a chefnogaeth gyfathrebu ymarferol mewn:
-
Cysylltiadau Cyhoeddus Corfforaethol
Arbenigedd mewn datblygu strategaeth Cysylltiadau Cyhoeddus eglur sydd yn gwella enw da eich corff ac sydd yn cefnogi ei nodau a'i amcanion ar draws pob uned busnes, mentrau ar y cyd a rhanddeiliaid.
-
Cysylltiadau Cyhoeddus Defnyddwyr
Strategaethau a thactegau i hyrwyddo eich cynnyrch yn y farchnad, cysylltu gyda chwsmeriaid a chreu ymwybyddiaeth o'ch brand.
-
Cysylltiadau Cyfryngau
Pam ddylai newyddiadurwyr drafod eich stori? Mae deall anghenion y cyfryngau yn hanfodol wrth adeiladu hygrededd eich corff a denu diddordeb yn ei lwyddiannau. Bydd Rossiter Communications yn gweithio fel cyfrwng y gallwch ymddiried ynddo rhwng eich cwmni ac uwch olygyddion a gohebwyr.
-
Cysylltiadau Rhanddeiliaid
Mae ennill calonnau a meddyliau'r bobl a'r cyrff sydd â diddordeb yn, neu sydd yn dylanwadu ar eich corff yn ganolog i unrhyw ymgyrch Cyfathrebiadau.
-
Enw Da a Rheolaeth Argyfwng
Diogelu, cynllunio a chynnal enw da eich brand mewn amgylchedd gystadleuol. Hefyd, cyngor a chefnogaeth ymarferol ar beth i'w wneud, beth i'w ddweud a sut i'w ddweud pan fo argyfwng yn digwydd.
-
Cyfathrebiadau Mewnol
Manteisio ar adnawdd Cysylltiadau Cyhoeddus mwyaf y cwmni - ei staff. Mae sicrhau eu bod yn gwybod beth sy'n digwydd cyn bwysiced ag unrhyw gyhoeddiad allanol. Mae Rossiter Communications yn darparu strategaethau cynhwysfawr ar gyfer gwneud yn siŵr bod y gynulleidfa fewnol yn gwybod beth sy'n digwydd.
-
Gwasanaethau Golygyddol
Erthyglau, llenyddiaeth corfforaethol, llenyddiaeth hyrwyddo, ysgrifennu areithiau, datganiadau i'r wasg.
-
Hyfforddiant Cyfryngau
Sut i gyfleu eich neges yn effeithiol mewn cyfweliadau teledu a radio a dealltwriaeth o'r hyn sydd yn gyrru agenda newyddion cyfoes.
Arbenigedd Cysylltiadau Cyhoeddus helaeth
Mae'r ymgynghoriaeth yn cael ei rhedeg gan Huw Rossiter sydd wedi bod mewn swyddi Cyfathrebu ar lefel uchel yn y BBC ac S4C yn ogystal a gyda'r rheoleiddwyr cyfryngau Ofcom ac ITC.
Ymagwedd gydweithredol
Gyda chleientiaid yn Llundain a Chymru, mae Huw yn cynnig ymagwedd gydweithredol tuag at weithio gyda chleientiaid - gan gyflwyno gwasanaeth wedi'i deilwra sydd wedi'i lywio gan ei gefndir cynhwysfawr yn un o sectorau mwyaf deinamig y DU.
Sectorau
- Sector Cyfryngau DU
- Darlledu
- Rheoleiddio
- Diwydiannau Creadigol
- Yr iaith Gymraeg
- Sector Cyhoeddus
- Sector Preifat

